Cofnodion cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol

3 Hydref 2015 - Menywod mewn Busnes

 

Yn bresennol:

 

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Christine Chapman AC (Cadeirydd)

Robin Lewis – Swyddog Cymorth Christine Chapman AC

 

Siaradwyr

Christine Atkinson Prifysgol De Cymru

 

Astudiaethau achos

Lesley Owen 

Sarah Robinson

Sarah Rees

 

Chwarae Teg

Joy Kent

Christine O’Byrne

Eira Jepson

Anne Howells

 

Partneriaid allanol

Rachel Bowe – Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru

Helen Kane - Access Included

Dr Karen Gully GIG Cymru

Fran Smith Body Solutions

Melissa Wood WEN Cymru

Dawn Elliott ISA Training

Sian Price BT

 

 

Ymddiheuriadau

Janet Finch-Saunders AC

Simon Thomas AC

Gwenda Thomas AC

Eluned Parrott AC

Ruth Davies Ymddiriedolaeth GIG Cymru

 

 

Croeso a Chyflwyniad gan y Cadeirydd

 

Agorodd y cadeirydd y cyfarfod:

“Croeso, bawb, i chweched cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Fenywod yn yr Economi.

Mae'n dda gweld pobl o gynifer o sefydliadau gwahanol yma heddiw. Christine Chapman, Aelod Cynulliad Cwm Cynon ydw i a fi yw Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol hwn. 

Bydd trafodaeth heddiw yn canolbwyntio ar fenywod mewn busnes. Byddwn yn ystyried diffyg cynrychiolaeth menywod ym myd busnes, ac yn edrych ar rai o'r rhwystrau a all atal cyfranogiad llawn.  Byddwn hefyd yn gofyn sut y gallwn ni annog a chefnogi entrepreneuriaid benywaidd. Mae hyn yn dilyn ein trafodaethau blaenorol am faterion megis rhannu cyfrifoldebau gofalu yn anghyfartal, sut mae'r economi yn defnyddio sgiliau menywod, a rhwystrau sy'n gysylltiedig â'r gweithle.  Yn y Rhaglen Lywodraethu a'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd menywod yn chwarae rhan lawn yn yr economi er mwyn hybu twf economaidd - gwn y bydd y drafodaeth heddiw yn rhoi llawer o syniadau ac awgrymiadau i ni ynghylch sut gall hyn ddigwydd.

Heddiw, Christine Atkinson, Pennaeth y Hyb Entrepreneuriaeth Menywod ym Mhrifysgol De Cymru. Bydd Christine yn rhoi trosolwg o Fenter Merched Cymru a bydd yn sôn am y prosiect WAVE - Menywod yn Ychwanegu Gwerth at yr Economi.  Yna, cawn glywed gan dri entrepreneur - Lesley Owen o Fifi Stitch, Sarah Robinson o Brighter Communications, a Sarah Rees o Careers Women Wales

Am tua 13:20, bydd yn rhaid i Aelodau'r Cynulliad adael i fynd i'r Cyfarfod Llawn. Mae croeso ichi barhau i drafod, ond byddaf yn rhoi'r awenau i Joy Kent o Chwarae Teg iddi hi gadeirio o hynny ymlaen.”

 

Cyn i mi wahodd Christine Atkinson i siarad, mae angen mynd trwy rai eitemau o fusnes arferol gan mai Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y grŵp hwn yw cyfarfod heddiw ac, yn unol â'r rheolau newydd ar gyfer Grwpiau Trawsbleidiol, mae angen cynnal Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol yn flynyddol.

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Dosbarthwyd yr Adroddiad Blynyddol ac fe'i cymeradwywyd gan y grŵp.  Cafodd Christine Chapman AC ei hail-ethol, a chafodd Christine O'Byrne hithau ei hail-ethol yn Ysgrifennydd

 

Christine Atkinson, Dirprwy Gyfarwyddwr, Canolfan Menter (Pennaeth Hyb Entrepreneuriaeth Menywod) Prifysgol De Cymru.

 

Bydd copi o'r cyflwyniad yn cael ei ddosbarthu i bawb oedd yn bresennol.

 

Cefndir i Fenywod yn Ychwanegu Gwerth at yr Economi (WAVE) - rhaglen dair blynedd (2012-2015) a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, ac a arweinir gan bartneriaeth rhwng Prifysgol De Cymru (Partner Arweiniol), Prifysgol Caerdydd, a Phrosiect Gweithdy'r Menywod: BAWSO

Nod Wave- mynd i'r afael â'r problemau sylfaenol sy'n cyfrannu at anghydraddoldebau cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru mewn cyflogaeth a hunangyflogaeth.  Gwnaed hyn drwy weithgareddau cydberthynol a chanddynt dargedu, yn cynnwys cyflogwyr, gweithwyr, menywod hunangyflogedig a rhanddeiliaid cysylltiedig. Cymerodd pob un o'r partneriaid gyfrifoldeb am arwain gweithgareddau sy'n berthnasol i'w hamcanion a'u grwpiau targed penodol.

 

·         Cymerodd dros 700 o ferched ran yn y gweithgareddau rhwydweithio a mentora

·         Sefydlwyd 7 rhwydwaith newydd ar gyfer menywod yn benodol

·         Sefydlwyd 3 chynllun mentora newydd ar gyfer menywod yn benodol

·         Lansiwyd cynllun Llysgenhadon Menter Menywod

·         Datblygwyd 5 cynllun dilyniant (datblygwyd cyrsiau newydd, achrededig a gynlluniwyd ar gyfer menywod) a 2 strategaeth ddysgu a datblygu.

·         Cymerodd bron i 200 o fenywod ran mewn fersiynau peilot o'r cyrsiau newydd

·         Dyfarnwyd cymwysterau i'r ymhell dros 100 o fenywod a gymerodd ran yn y cyrsiau peilot.

·         Roedd eu hanner yn gymwysterau ôl-radd

·         Cynorthwywyd 45 o gyflogwyr a gwnaeth 23 o gyflogwyr fabwysiadu neu wella strategaethau a systemau monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth

 

At ei gilydd, arweiniodd WAVE at

·         9 astudiaeth ymchwil

·         O ran entrepreneuriaeth, mae dynion yn fwy niferus na menywod o hyd, gan tua 2:1

·         Ac mae llai fyth o fenywod yn rhedeg busnes aeddfed, sy'n dangos bod yr heriau sy'n eu hwynebu dros amser yn fwy o ran maint neu nifer

·         Mae pob perchennog busnes yn wynebu heriau - mae'r daith o fod yn sylfaenydd i fod yn arweinydd yn golygu addasu i anghenion sy'n newid a datblygu sgiliau newydd

·         O ystyried y ffaith mai menywod, yn gyffredinol, sy'n cymryd y prif gyfrifoldeb o ran y cartref a gofalu, mae'n anos iddynt gael cydbwysedd rhwng  eu hymrwymiadau personol a busnes ac ymrwymiadau’r cartref

·         Brwydro yn erbyn mythau, stereoteipiau a 'damcaniaethau tanberfformio' sy'n portreadu menywod a'u busnesau fel rhai 'llai llwyddiannus'

O'r astudiaeth feintiol

·         Cynnydd yn nifer y menywod sy'n hunangyflogedig, yn enwedig yn yr ardaloedd Cydgyfeirio mwy trefol a lled-drefol

·         Mae'r cynnydd yn nifer y menywod sy'n hunangyflogedig wedi helpu economi Cymru i ymdopi'n well ar ôl y dirwasgiad

·         Mae incwm cyfartalog menywod hunangyflogedig (i'r rhai sy'n agored i dreth) yn parhau yn is yng Nghymru nag y mae mewn rhannau eraill o'r DU

·         Mae mynediad at gyllid yn broblem o hyd ond gall agweddau negyddol menywod sy'n berchnogion busnes eu hunain at gyllid allanol hefyd effeithio ar allu busnesau i dyfu yn ôl yr angen

·         Mae cyfalaf dynol a chymdeithasol yn deillio o sgiliau blaenorol, profiad, ac effaith rhwydweithiau menywod ar fenywod sy'n berchnogion busnes ac ar eu canfyddiadau ohonynt eu hunain a chanfyddiadau eraill ohonynt

3 chanlyniad allweddol o'r astudiaeth ansoddol

·         Cymhellion - maent yn cynnwys ystyriaethau ynghylch cydbwysedd gwaith a bywyd ac effaith penderfyniadau busnes ym mhob maes

·         Llwyddiant - nid o reidrwydd yn gyfystyr â mesurau traddodiadol fel ennill arian mawr, trosiant, neu broffidioldeb, ond gall eu bod yn ymwneud ag ymreolaeth, boddhad personol a'r rhyddid i arloesi

·         Peidio â chael eu cymryd o ddifrif - ynghyd â sicrhau hygrededd, mae'r rhain yn sbarduno menywod tuag at hunangyflogaeth, ond maent hefyd yn effeithio ar eu profiad o hunangyflogaeth

 

Goblygiadau Polisi:

·         O ran galwadau i annog mwy o fenywod i sefydlu a rhedeg eu busnesau eu hunain, mae'n bwysig canolbwyntio ar eu helpu i gyflawni eu potensial personol ac o ran busnes

·         Mae angen codi ymwybyddiaeth fel y caiff menywod dod yn hunangyflogedig eu rhagrybuddio o'r cyfleoedd posibl, y bygythiadau, yr heriau a'r cyfyngiadau sy'n gysylltiedig â gwahanol sectorau, gan gynnwys y rhai lle mae mwyafrif mawr o fenywod yn draddodiadol

·         Mae angen ymyriadau wedi'u targedu sy'n rhyw benodol ac sy'n ymwybodol o rywedd i helpu menywod i ddechrau a datblygu eu busnesau ac i gefnogi eu datblygiad ymhellach, a'u mynediad at gymorth a rhwydweithiau busnes cyffredinol yn y brif ffrwd

·         Hefyd, mae angen cynhyrchu a rhyddhau yn fwy rheolaidd ddata eilaidd wedi'i ddatgyfuno ar sail rhyw ar amrywiaeth o faterion sy'n ymwneud â hunangyflogaeth ac entrepreneuriaeth er mwy cefnogi ymchwil, gwybodaeth a dealltwriaeth o rôl rhywedd mewn perthynas ag entrepreneuriaid

     

Lesley Owen -  Fifi Stitch


Lesley Owen ydw i. Rwy'n dod o'r Rhondda a myfi yw sylfaenydd ac artist Fifi Stitch, sef brand o dedis at ofynion unigol sy'n allforio yn rhyngwladol ers dwy flynedd bellach. Yn yr amser hwnnw, goresgynnais lawer o rwystrau, yn enwedig o ran hyder, cyn i mi ddechrau fy ngweld fy hunan yn entrepreneur go iawn.

 

Wedi ennill gradd Ffasiwn o Goleg Sir Gâr, a chwilfrydedd ynghylch entrepreneuriaeth yn rhan ohonof erioed, fy mwriad gwreiddiol oedd dechrau cwmni dillad, ond pan gafodd fy nai ei eni, cynlluniais, a gwneuthum, ei arth cyntaf, ac aeth hynny'n hobi annisgwyl na allwn ei stopio. Felly, o'r gwreiddiau hynny y tyfodd y brand, gan ddechrau gyda dim mwy na £10, a minnau'n raddedig heb yr un geiniog.

 

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ar ôl rhai profiadau negyddol mewn cyflogaeth, ond yn datblygu seiliau cadarn i'r brand yr un pryd, roeddwn yn ddigon cysurus y byddai digon o alw am fy nghynnyrch imi roi cynnig arni a mynd yn hunangyflogedig.

 

Y rhwystrau a oresgynnwyd gan Lesley oedd diffyg hyder a  hunangred heb bresenoldeb modelau rôl y gallai hi ymdeimlo â hwy a heb gael ei hannog gan addysgwyr, teulu a ffrindiau i gymryd ei syniadau busnes o ddifrif. Cafodd hi'n anodd rhoi pris ar ei gwaith crefft ac fe'i tanbrisiodd oherwydd ei diffyg hyder a gwybodaeth am fusnes. Mae'n credu bod yr iaith busnes a ddefnyddir wrth gyfathrebu â phobl greadigol yn bwysig. - Mae hi'n dweud bod pobl greadigol ifanc yn meddwl fel artistiaid cyn troi eu bryd ar fusnes, ac mae llawer o fenywod ifanc yn cychwyn arni yn y sector creadigol heb fawr o opsiynau gyrfa fel arall. Byddai defnyddio iaith busnes fwy priodol wrth ymgysylltu yn ysbrydoli mwy o fenywod i ddechrau busnes creadigol llwyddiannus i gychwyn, a bod y gorau y gallant fod yn y marchnadoedd sy'n fenywaidd fwyaf, gan annog proffesiynoldeb newydd yn y sector crefftau'r un pryd.

Dywedodd cydweithiwr o ddyn wrthi na fyddai hi'n gallu tyfu ei busnes gan ei fod yn rhy "enethaidd", ac mae'n cael bod dynion mewn digwyddiadau rhwydweithio yn aml yn nawddoglyd tuag ati, a hyd yn oed pan fydd yn ceisio cymorth busnes mynediad, nid oeddent fel pe baent yn gwybod beth i'w wneud â hi.


Ymunodd Lesley â grwpiau rhwydweithio i ddatblygu cysylltiadau, ac mae hefyd yn aelod o fwrdd Made in the Valleys.  Mae'n awyddus i herio'r stereoteipiau sy'n wynebu menywod ifanc yn y diwydiannau creadigol, yn enwedig o ran hygrededd, ac mae am annog i fwy o fenywod ifanc sydd am ddechrau yn y diwydiant crefftau wneud hynny â hyder a phroffesiynoldeb, gan anelu at dwf. 

 

Sara Robinson

Mae Brighter Communications bellach yn bedair oed.  Ei rheswm dros ddecrhau ei busnes ei hunan oedd hyblygrwydd, cymhelliant a hunanhyder. - Rhwystrau - dim cyflog am yr ychydig fisoedd cyntaf, llogi gweithiwr cyntaf -bellach mae'n cyflogi wyth o bobl a thîm a recriwtiwyd ganddi hi ei hun, and mae'n betrus iawn am gael unrhyw gyllid.  Ariannodd ei thystysgrif ôl-radd ei hun, ac roedd ganddi hyfforddwr a'i hanogai i anelu'n uchel.  Mae mentora a hyfforddiant yn amlycach o ran cael cynllun.

 

Sara Rees - Careers Women Wales

O fryd entrepreneuraidd erioed a gweld syniadau da yn dod yn broffidiol.

Cafodd ei diswyddo pan oedd ar gyfnod mamolaeth, cafodd fwrsari cymorth busnes o chwe mis gan Chwarae Teg a oedd yn caniatáu iddi ddilyn ei breuddwyd.  Mae gofal plant yn parhau i fod yn rhwystr mawr. Ymunodd ag Espire - rhaglen mentora yn gweithio gyda phartneriaid yn y trydydd sector - Mae fy musnes yn helpu menywod i benderfynu beth byddent am ei wneud yn eu bywyd gwaith ac mae'n canolbwyntio ar waith/swyddi rhan amser i'w helpu i ddatblygu eu hunain. Cafodd Sarah £60.00 yr wythnos trwy ACT Training, sydd hefyd yn helpu gyda chynllun busnes beth bynnag yw eich galwedigaeth ac mae'n defnyddio ieithwedd menywod hefyd.

 

Diolchodd Christine Chapman i'r siaradwyr a gofynnodd am gwestiynau gan y rhai oedd yn bresennol.

 

Rachel Bowen FSB- Cytunodd â'r siaradwyr fod angen am fentora - mentora menywod busnes/cyffredinol a'i deilwra i'r hyn sydd ei eisiau arnynt - tyfu busnes, rhaid bod yn ymwybodol nad yw pob menyw am dyfu ei busnes, mae hyblygrwydd yn bwysicach i rai menywod nag y mae'r arian.

 

Cafwyd trafodaeth fywiog a'r argymhellion i fwrw ymlaen â hwy yw:

 

·         Modelau Rôl

·         Ymwybyddiaeth Rhywedd

·         Egluro lle mae cymorth ar gael ym mhob cam

·         Darparu cyfleoedd rhwydweithio a mentora

·         Cymryd y cam nesaf, h.y. o fod yn therapydd i redeg gweithdai

·         Jyglo bywyd cartref

·         Risg o beidio â gweithio gartref; nid yw pob cartref yn addas ar gyfer y gwaith y mae menywod am ei wneud.

·         Ardaloedd difreintiedig - gallai'r siopau fod yn llawn menywod sydd am sefydlu eu busnes eu hunain - byddai hyn hefyd yn gwella cymunedau.

·         Gweithio ar sail gydweithredol, trafod y brydles â'r landlord i'ch galluogi i isosod i fenywod eraill.

·         Chwalu'r myth yr aed i'r afael â chymorth busnes.

·         Yr astudiaethau busnes sy'n cael eu dysgu mewn sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch. Disgrifiad o'r cyrsiau a deunyddiau ysgrifenedig.

·         Modelau rôl mewn Prifysgolion - cydweithwyr gwrywaidd i newid eu ffordd o ddysgu a sut mae defnyddiau yn cael eu datblygu.

·         Gofal plant - mae newidiadau yn y teulu yn golygu na allent fynd i gyfarfodydd brecwast i rwydweithio.

 

Cyfarfod Nesaf 3 Chwefror  2016 - "Camau Nesaf"